The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 30

1Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.

2Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.

3Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.

4‘Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?

5Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo.

6Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog.

7Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na ormedd hwynt i mi cyn fy marw.

8Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digoedd o fara.

9Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer

10Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog.

11Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia.

12Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei aflendid.

13Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw eu llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd.

14Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion.

15I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:

16Y bedd; y groth anihlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon.

17Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty.

18Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:

19Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr yfed ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.

20Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd,

21Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:

22Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;

23Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres.

24Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:

25Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;

26Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;

27Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;

28Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.

29Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:

30Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;

31Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.

32Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.

33Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan a’r ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.

← Llyfr y Diarhebion 29Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 31 →

Study Llyfr y Diarhebion 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031