The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 4

1Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.

2Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.

3Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.

4Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.

5Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

6Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.

7Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.

8Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

9Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

10Gwrando, fy mab, a derbyn ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

11Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

12Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng: a phan redech, ni thramgwyddi.

13Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi. cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

14Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

15Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

16Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddyntn gwympo rhyw ddyn.

17Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

18Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

19Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

21Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.

22Canys bywyd ydynt i’r neb an caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.

23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.

24Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.

25Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen.

26Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.

27Na thro at y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.

← Llyfr y Diarhebion 3Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 5 →

Study Llyfr y Diarhebion 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031