The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 3

1Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:

2Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.

5Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.

6Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

7Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.

8Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.

9Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:

10Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.

11Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;

12Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

13Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan.

14Canys gwell yw ei fiarsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

15Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

16Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.

17Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

18Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

19Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.

20Trwy ei wybodaeth ef yr hollt odd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.

22Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf.

23Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda.

24Pan orweddych, nid ofni, ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.

25Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.

26Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

28Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.

29Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

31Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.

32Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

33Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig.

35Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

← Llyfr y Diarhebion 2Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 4 →

Study Llyfr y Diarhebion 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031