The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 29

1Gwr a geryddir yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.

2Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.

3Gŵr a garo ddoethineb a lawen ycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.

4Brenin trwy fam a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi.

5Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w dreaed ef.

6Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.

7Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.

8Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.

9Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.

10Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef

11Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl.

12Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.

13Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r ARGLWYDD a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

14Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.

15Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.

16Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.

17Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid.

18Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.

19Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.

20A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.

21Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fgdd fel mab iddo.

22Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd.

23Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.

24Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.

25Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.

26Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.

27Ffiaidd gab y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

← Llyfr y Diarhebion 28Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 30 →

Study Llyfr y Diarhebion 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031