The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 17

1Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.

2Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.

3Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.

4Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.

5Y neb a watwaro y tlawd, sydd yn gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.

6Coron yr hynafgwyr yw en hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

7Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.

8Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.

9Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.

10Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.

11Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

12Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb.

13Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef.

14Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.

15Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau.

16Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?

17Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

18Dyn heb bwll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.

19Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.

20Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.

21Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.

22Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.

23Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.

24Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.

25Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam.

26Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.

27Gŵr synhwyrol a atal ei yriadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.

28Y ffôl, tawo,a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

← Llyfr y Diarhebion 16Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 18 →

Study Llyfr y Diarhebion 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031