The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 14

1Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.

2Yr hwn sydd yn rhodio yn ei uniondcr, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

3Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.

4Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.

5Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.

6Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus.

7Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.

8Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

9Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd; ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.

10Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi.

11Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

12Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.

16Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

17Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.

18Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.

19Y rhai drygionus a ymyostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

20Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

21A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni.

23Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24Coron y doethion yw eu cyfoeth; ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

25Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

26Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa.

27Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.

28Mewn amlder y bobl y rnae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.

29Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.

30Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.

31Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.

32Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

33Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.

34Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.

35Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol; ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.

← Llyfr y Diarhebion 13Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 15 →

Study Llyfr y Diarhebion 14

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031