The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 24

1A chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:

2Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder.

3Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:

4A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.

5Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.

6Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.

7Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.

8Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.

9Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.

10Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.

11Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd?

12Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni wŷr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

13Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau.

14Felly y bydd gwybodaeth doithineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla.

15Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.

16Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrhtinat mewn drygioni.

17Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:

18Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.

19Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:

20Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.

21Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad:

22Canys yn ddisymwth y cyfyd cu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23Dyma hefyd bethau doethion Nid da derbyn wyneb mewn barn.

24Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef:

25Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.

26Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.

27Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.

28Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau

29Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred.

30Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;

31Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.

32Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.

33Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:

34Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

← Llyfr y Diarhebion 23Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 25 →

Study Llyfr y Diarhebion 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031