The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 31

1Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.

2Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?

3Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd.

4Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:

5Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig.

6Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon.

7Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac ac un na feddylio am ei flinfyd mwy.

8Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.

9Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.

10Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl.

11Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.

12Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.

13Hi a gais wla^n a llin, ac a’i gweithia a’i dwylo yn ewyllysgar.

14Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.

15Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau.

16Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

17Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

18Hi a wêl fod ei marsiandiaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.

19Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail.

20Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.

21Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

22Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.

23Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.

24Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.

25Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.

26Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.

27Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.

28Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:

29Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.

30Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gwy gaiff glod.

31Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.

← Llyfr y Diarhebion 30Read In The App, Free →Ecclesiastes 1 →

Study Llyfr y Diarhebion 31

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031