The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 9

1Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.

2Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.

3Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:

4Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

5Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais.

6Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.

7Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.

8Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.

9Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiwn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.

10Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.

11Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.

12Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.

13Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:

14Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,

15I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:

16Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy byrmag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,

17Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.

18Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.

← Llyfr y Diarhebion 8Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 10 →

Study Llyfr y Diarhebion 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031