The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 2

1Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;

2Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

3Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;

4Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;

5Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.

6Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.

7Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodia yn uniawn.

8Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.

9Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus

10Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;

11Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw:

12I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;

13Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;

14Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;

15Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

16I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;

17Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.

18Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw.

19Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

20Fel y rhodiech di at hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

21Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gant aros ynddi.

22Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

← Llyfr y Diarhebion 1Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 3 →

Study Llyfr y Diarhebion 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031