The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 22

1Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.

2Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.

3Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

4Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd

5Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.

6Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.

7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.

8Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.

9Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.

10Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen ac â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd.

11Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.

12Llygaid yr ARGLWYDD a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.

13Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd.

14Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr ARGLWYDD yn ddig wrtho, a syrth yno.

15Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho.

16Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanega ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.

17Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.

18Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

19Fel y byddo dy obaith yn yr AR-GLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.

20Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,

21I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y. gwirionedd i’r neb a anfonant atat?

22Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.

23Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.

24Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:

25Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i’th enaid.

26Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo,o’r rhai a fachnïant am ddyled.

27Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?

28Na symud mo’r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.

29A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.

← Llyfr y Diarhebion 21Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 23 →

Study Llyfr y Diarhebion 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031