The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 13

1Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.

2Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.

3Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.

4Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.

5Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.

6Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.

7Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.

8Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

9Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

10Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb.

11Golud a gasgler trwÿ oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega.

12Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.

14Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.

15Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.

16Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

17Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

18Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.

19Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

20Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

21Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn.

22Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.

23Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.

24Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser.

25Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.

← Llyfr y Diarhebion 12Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 14 →

Study Llyfr y Diarhebion 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031