The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 11

1A Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?

3Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo?

4Canys dywedaist. Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

5Ond, O na lefarai DUW, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

6A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag a haeddai dy anwiredd.

7A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

8Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

9Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr.

10Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?

11Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?

12Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

13Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

14Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddefi anwiredd drigo yn dy luestai:

15Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

16Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

17Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

18Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

19Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb.

20Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

← Llyfr Job 10Read In The App, Free →Llyfr Job 12 →

Study Llyfr Job 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142