The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 26

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Pwy a gynorthwyaist ti? ai y dinerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?

3Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?

4Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?

5Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

6Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.

7Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim.

8Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.

9Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.

10Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.

11Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

12Efe a ranna y môr a’i nerth, ac a dery falchder â’i ddoethineb.

13Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.

14Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?

← Llyfr Job 25Read In The App, Free →Llyfr Job 27 →

Study Llyfr Job 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142