Llyfr Job 6
1A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!
3Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.
4Oherwydd y mae saethau yr Hollall¬uog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn.
5A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?
6A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?
7Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.
8O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!
9Sef rhyngu bodd i DDUW fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith.
10Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.
11Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?
12Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?
13Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?
14I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.
15Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;
16Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:
17Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle.
18Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.
19Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.
20Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.
21Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.
22A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi?
23Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?
24Dysgwch fi, a myfi a dawaf: A gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.
25Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?
26Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?
27Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill.
28Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.
29Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.
30A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?