The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 18

1A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

2Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.

3Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?

4O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle?

5Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.

6Goleuni a dywylla yn ei luesty ef a’i lusern a ddiffydd gydag ef.

7Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr.

8Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.

9Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef.

10Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.

11Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed.

12Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

13Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf-anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

14Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau.

15Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.

16Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd.

17Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

18Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd.

19Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.

20Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw.

21Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir a dyma le y dyn nid edwyn DDUW.

← Llyfr Job 17Read In The App, Free →Llyfr Job 19 →

Study Llyfr Job 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142