The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 41

1A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

2A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei en ef a mynawyd?

3A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?

4A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?

5A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau?

6A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?

7A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?

8Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.

9Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?

10Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

11Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

12Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystum ef.

13Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef a’i ffrwvn ddauddyb- lyg?

14Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

15Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.

16Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

17Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.

18Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.

19Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef.

20Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.

21Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau.

22Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef.

23Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.

24Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin.

25Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhant.

26Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig.

27Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

28Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

29Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

30Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

31Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

32Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

33Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

34Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

← Llyfr Job 40Read In The App, Free →Llyfr Job 42 →

Study Llyfr Job 41

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142