The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 15

1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

2A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt?

3A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?

4Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw.

5Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.

6Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac aid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.

7A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau?

8A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun?

9Beth a wyddost ti a’r nas gwyddoiri ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?

10Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di.

11Ai bychan gennyt ti ddiddanwch DUW? a oes dim dirgel gyda thi?

12Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,

13Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn DUW, a gollwng y fath eiriau allan o’tn enau?

14Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?

15Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.

16Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?

17Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a r hyn a welais a fynegaf.

18Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:

19I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

20Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.

21Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.

22Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.

23Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

24Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin pared i ryfel.

25Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.

26Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei dananau:

27Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.

28A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.

29Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.

30Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.

31Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.

32Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa.

33Efe a ddihidia ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.

34Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.

35Y maent yn ymddwyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

← Llyfr Job 14Read In The App, Free →Llyfr Job 16 →

Study Llyfr Job 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142