The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 8

1Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac ddywedodd,

2Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?

3A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?

4Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;

5Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog;

6Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.

7Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.

8Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:

9(Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)

10Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon?

11A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?

12Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.

13Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng DUW dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr;

14Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.

15Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.

16Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.

17Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.

18Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais.

19Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill.

20Wele, ni wrthyd DUW y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;

21Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd.

22A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

← Llyfr Job 7Read In The App, Free →Llyfr Job 9 →

Study Llyfr Job 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142