The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 28

1Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.

2Haearn a dynnir allan o’r pridd, ac o’r garreg y toddir pres.

3Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.

4Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.

5Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.

6Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.

7Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:

8Yr hwn ni sathrodd cenawon llew, nid aeth hen lew trwyddo.

9Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.

10Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

11Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

12Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

13Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

14Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.

15Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.

16Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir.

17Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.

18Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.

19Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.

20Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?

21Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.

22Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi.

23DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

24Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan, yr holl nefoedd;

25I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur.

26Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau:

27Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratodd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan.

28Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

← Llyfr Job 27Read In The App, Free →Llyfr Job 29 →

Study Llyfr Job 28

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142