The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 12

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

3Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

4Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar DDUW, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

5Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed.

6Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

7Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

9Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn?

10Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

11Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?

12Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

13Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.

14Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

15Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.

16Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus.

17Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.

18Efe sydd yn dattod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.

19Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.

20Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodil y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.

21Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.

22Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.

23Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra.

24Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

25Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

← Llyfr Job 11Read In The App, Free →Llyfr Job 13 →

Study Llyfr Job 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142