The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 42

1A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,

2Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.

3Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.

4Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.

5Myfi a glywais a’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di.

6Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.

7Ac wedi dywedyd o’r ARGLWYDD y geiriau hyn wrth Job, yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.

8Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddied fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.

9Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt. A’r ARGLWYDD a dderbyniodd wyneb Job.

10Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.

11Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr ARGLWYDD arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.

12Felly yr ARGLWYDD a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.

13Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.

14Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren-happuc.

15Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.

16A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.

17Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.

← Llyfr Job 41Read In The App, Free →Psalms 1 →

Study Llyfr Job 42

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142