The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 36

1A Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

2Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros DDUW.

3O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawn¬der.

4Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.

5Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.

6Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid.

7Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.

8Ac os hwy a rwymir a gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;

9Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt:

10Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.

11Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch.

12Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.

13Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.

14Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan.

15Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.

16Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.

17Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.

18Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr.

19A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.

20Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.

21Ymochel, nac edrych ar an wiredd; canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.

22Wele, DUW trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?

23Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?

24Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.

25Pob dyn a’i gwêl, a dyn a’i cenfydd o bell.

26Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.

27Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;

28Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.

29Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?

30Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.

31Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.

32Efe a guddia y goleuni a chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.

33Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

← Llyfr Job 35Read In The App, Free →Llyfr Job 37 →

Study Llyfr Job 36

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142