The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 17

1Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi.

2Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt?

3Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law ya fy llaw i?

4Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt.

5Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.

6Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl,ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt.

7Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod.

8Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.

9Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.

10Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi.

11Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.

12Gwnant y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch.

13Os disgwyliaf, y bedd sydd dy i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.

14Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt.

15A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?

16Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

← Llyfr Job 16Read In The App, Free →Llyfr Job 18 →

Study Llyfr Job 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142