The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 20

1Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.

3Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.

4Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,

5Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?

6Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau;

7Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant. Pa le y mae efe?

8Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.

9Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono.

10Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.

11Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.

12Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;

13Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:

14Ei lwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef.

15Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef.

16Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’l lladd ef.

17Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.

18Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.

19Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;

20Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd.

21Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.

22Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.

23Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigo¬faint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.

24Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef.

25Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.

26Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.

27Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.

28Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.

29Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.

← Llyfr Job 19Read In The App, Free →Llyfr Job 21 →

Study Llyfr Job 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142