The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 16

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.

3Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?

4Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.

6Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

7Ond yn awr efe a’m blinodd i, anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

8A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

10Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

11DUW a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion.

12Yr oeddwn yn esmwyth; ond a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun.

13Ei saethyddion ef sydd yn fy anagylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.

14Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.

15Gwnïais sachlen ar fy nghroen, halogais fy nghorn yn y llwch.

16Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:

17Er nad oes gamwedd yn fy nwylo, a bod fy ngweddi yn bur.

18O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd.

19Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder.

20Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth DDUW.

21O na chai un ymddadlau a DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!

22Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.

← Llyfr Job 15Read In The App, Free →Llyfr Job 17 →

Study Llyfr Job 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142