The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 32

1Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.

3A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.

4Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.

5Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigo¬faint ef.

6Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

7Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.

8Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

9Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

10Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

11Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

13Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

14Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi.

15Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.

16Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)

17Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.

18Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.

19Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.

20Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.

21Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.

22Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

← Llyfr Job 31Read In The App, Free →Llyfr Job 33 →

Study Llyfr Job 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142