The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 23

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.

3O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!.

4Trefnwn fy mater ger ei fron efe: a llanwn fy ngenau â rhesymau.

5Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.

6A ddadlau efe i’m herbyn a helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

7Yno yr uniawn a ymresymai ag ef; felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

8Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw fe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

9Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

10Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

11Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni wyrais.

12Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol.

13Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna.

14Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau.

15Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

16Canys DUW a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd:

17Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

← Llyfr Job 22Read In The App, Free →Llyfr Job 24 →

Study Llyfr Job 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142