The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 3

1Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.

2A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,

3Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.

4Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.

5Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno.

6Y nos honno, tywyllwch a’i cymero, na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.

7Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.

8A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi.

9A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:

10Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

11Paham na bum farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth?

12Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?

13Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.

14Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;

15Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;

16Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.

17Yno yr annuwiolion a beidiant a’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.

18Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; nic chlywant lais y gorthrymydd.

19Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.

20Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid?

21Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?

22Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?

23Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?

24Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

25Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

← Llyfr Job 2Read In The App, Free →Llyfr Job 4 →

Study Llyfr Job 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142