The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 15

1Y Jebusiaid heb eu gorchfygu. A rhandir llwyth meibion Judah, yn ol eu teuluoedd, ydoedd tu a therfyn Edom: anialwch Sin, tu a’r dehau, oedd eithaf y terfyn dehau.

2A therfyn y dehau oedd iddynt hwy o gwrr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tu a’r dehau.

3Ac yr oedd yn myned allan o’r dehau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fynu o du y dehau i Cades-Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaah.

4Ac yr oedd yn myned tu ag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aipht; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn dehau.

5A’r terfyn tu a’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’ r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.

6A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu i Beth-Hoglah, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth-Arabah; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu at faen Bohan mab Reuben.

7A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu a Debir o ddyffryn Achor, a thu a’r gogledd yn edrych tu a Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y dehau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwrr eithaf sydd wrth En-rogel.

8A’r terfyn sydd yn myned i fynu trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y dehau, honno yw Jerusalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fynu i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tu a’r gorllewin, yr hwn sydd y’nghwrr glyn y cawri, tu a’r gogledd.

9A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Ephron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baalah, honno yw Ciriath-jearim.

10A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baalah tu a’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timnah.

11A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tu a’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baalah, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

12A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Judah o amgylch, wrth eu teuluoedd.

13¶ Ac i Caleb mab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysg meibion Judah, yn ol gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

14A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.

15Ac efe a aeth i fynu oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-Sepher.

16¶ A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a darawo Ciriath-Sepher, ac a’i hennillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsah fy merch yn wraig.

17Ac Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, a’i hennillodd hi. Yntau a roddodd Achsah ei ferch iddo ef yn wraig.

18A phan ddaeth hi i mewn atto ef, yna hi a’i hannogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

19A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y dehau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

20Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Judah, wrth eu teuluoedd.

21¶ A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Judah, tu a therfyn Edom, ar du y dehau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,

22Cinah hefyd, a Dimonah, ac Adadah,

23Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,

24A Ziph, a Thelem, a Bealoth,

25A Hasor, Hadattah, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,

26Ac Amam, a Sema, a Moladah,

27A Hasar-Gàdah, a Hesmon, a Bethpalet,

28A Hasar-sual, a Beer-seba, a Biziothiah,

29Baalah, ac Iim, ac Asem,

30Ac Eltolad, a Chesil, a Hormah,

31A Siclag, a Madmannah, a Sansannah,

32A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd.

33Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Soreah, ac Asnah,

34A Zanoah, ac En-gannim, Tappuah, ac Enam,

35Jarmuth, ac Adùlam, Sochoh, ac Azecah,

36A Saraim, ac Adithaim, a Gederah, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

37Senan, a Hadasah, a Migdal-Gad,

38A Dilean, a Mispeh, a Joctheel,

39Lachis, a Boscath, ac Eglon,

40Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,

41A Gederoth, Beth-Dagon, a Naamah, a Maccedah; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

42Libnah, ac Ether, ac Asan,

43A Jiphtah, ac Asnah, a Nesib,

44Ceilah hefyd, ac Achzib, a Maresah; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.

45Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:

46O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd ger llaw Asdod, a’u pentrefydd:

47Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gazah, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aipht; a’r môr mawr, a’ i derfyn.

48¶ Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Sochoh,

49A Dannah, a Ciriath-sannath, honno yw Debir,

50Ac Anab, ac Astemoh, ac Anim,

51A Gosen, a Holon, a Giloh; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.

52Arab, a Dumah, ac Esean,

53A Janum, a Beth-tappuah, ac Aphecah,

54A Humtah, a Chaer-Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd.

55Maon, Carmel, a Ziph, a Juttah,

56A Jezreel, a Jocdeam, a Zanoah,

57Cain, Gibeah, a Thimnah; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

58Halhul, Bethsur, a Gedor,

59A Maarath, a Beth-anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

60Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabbah; dwy ddinas, a’u pentrefydd.

61¶ Yn yr anialwch; Beth-arabah, Midin, a Sechachah,

62A Nibsan, a dinas yr halen, ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

63Ond ni allodd meibion Judah yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerusalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyd â meibion Judah yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

← Llyfr Josua 14Read In The App, Free →Llyfr Josua 16 →

Study Llyfr Josua 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324