Llyfr Josua 18
1eu dinasoedd. A holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.
2A saith lwyth oedd yn aros ym mysg meibion Israel, i’r rhai ni rannasent eu hetifeddiaeth etto.
3A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?
4Moeswch o honoch dri-wŷr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosparthont hi yn ol eu hetifeddiaeth hwynt; ac y de!ont attaf drachefn.
5A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Judah a saif ar ei derfyn o du y dehau, a thŷ Joseph a safant ar eu terfyn o du y gogledd.
6A chwi a ddosperthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosparthiadau attaf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.
7Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; o herwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasseh, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.
8¶ A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchymynodd i’r rhai oedd yn myned i rannu y wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy y wlad, a dosperthwch hi, a dychwelwch attaf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren ger bron yr Arglwydd yn Siloh.
9A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy y wlad, ac a’i dosparthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Siloh.
10¶ A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy ger bron yr Arglwydd yn Siloh: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ol eu rhannau.
11¶ A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fynu yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Judah a meibion Joseph.
12A’r terfyn oedd iddynt hwy tu a’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fynu gan ystlys Jericho, o du y gogledd, ac yn myned i fynu trwy y mynydd tu a’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Beth-afen.
13Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Luz, gan ystlys Luz, honno yw Bethel, tu a’r dehau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth-adar, i’r mynydd sydd o du y dehau i Beth-horon isaf.
14A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tu a’r dehau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tu a’r dehau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, dinas meibion Judah. Dyma du y gorllewin.
15A thu y dehau sydd o gwrr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tu a’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah.
16Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tu a chwrr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cawri tu a’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tu a’r dehau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
17Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tu a Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:
18Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Arabah tu a’r gogledd, ac yn disgyn i Arabah.
19Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth-hoglah tu a’r gogledd: a chwrr eithaf y terfyn oedd wrth làn y môr heli tu a’r gogledd, hyd gwrr yr Iorddonen tu a’r dehau. Dyma derfyn y dehau.
20Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ol eu teuluoedd.
21A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hoglah, a glyn Cesis,
22A Beth-arabah, a Semaraim, a Bethel,
23Ac Afim, a Pharah, ac Ophrah,
24A Chephar-haammonai, ac Ophni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
25Gibeon, a Ramah, a Beeroth,
26A Mispeh, a Chephirah, a Mosah,
27A Recem, ac Irpeel, a Tharalah,
28A Selah, Eleph, a Jebusi, (honno yw Jerusalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd.