Llyfr Josua 20
1a phlant Israel yn ordeinio y chwe dinas noddfa. A llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:
3Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dïalydd y gwaed.
4A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymmerant ef attynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyd â hwynt.
5Ac os dïalydd y gwaed a erlid ar ei ol ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.
6Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoisai efe o honi.
7¶ Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Galilee, ym mynydd Naphtali, a Sichem ym mynydd Ephraim, a Chaer-Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Judah.
8Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasseh.
9Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dïalydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa.