Llyfr Josua 19
1Plant Israel yn rhoddi etifeddiaeth i Josua. A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Judah.
2Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Moladah,
3A Hasar-sual, a Balah, ac Asem,
4Ac Eltolad, a Bethul, a Hormah,
5A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susah,
6A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:
7Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
8A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o’r dehau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd.
9O randir meibion Judah yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Judah oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10¶ A’r trydydd coelbren a ddaeth i fynu dros feibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fynu tu a’r môr, a Maralah, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tu a chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Japhia;
13Ac yn myned oddi yno ym mlaen tu a’r dwyrain, i Gittah-Hepher, i Ittah-Casin; ac yn myned allan i Rimmon-Methoar, i Neah.
14A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad y’nglyn Jiphtahel.
15Cattath hefyd, a Nahàlal, a Simron, ac Idalah, a Beth-lehem; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
16Dyma etifeddiaeth meibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
17¶ Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ol eu teuluoedd.
18A’u terfyn hwynt oedd tu a Jezreel, a Chesùloth, a Sunem,
19A Haphraim, a Sihon, ac Anaharath,
20A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21A Remeth, ac En-gannim, ac En-hàdah, a Beth-passes.
22A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasimah, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
23Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
24¶ A’r pummed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd.
25A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaph,
26Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tu a’r gorllewin, ac i Sihor-Libnath:
27Ac yn troi tu a chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Zabulon, ac i ddyffryn Jiphtahel, tu a’r gogledd i Beth-Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Canah, hyd Sidon fawr.
29A’r terfyn sydd yn troi i Ramah, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achzib.
30Ummah hefyd, ac Aphec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.
31Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
32¶ Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Naphtali, dros feibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd.
33A’u terfyn hwy oedd o Heleph, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34A’r terfyn sydd yn troi tu a’r gorllewin i Aznoth-Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Zabulon o du y dehau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Judah a’r Iorddonen tu a chyfodiad haul.
35A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36Ac Adamah, a Ramah, a Hasor,
37A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,
38Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
39Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
40¶ Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd.
41A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sorah, ac Estaol, ac Ir-Semes,
42A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithlah,
43Ac Elon, a Thimnathah, ac Ecron,
44Ac Elteceh, a Gibbethon, a Baalath,
45A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,
46A Meiarcon, a Raccon, gyd â’r terfyn ar gyfer Japho.
47A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fynu i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i hennillasant hi; tarawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddiannasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ol enw Dan eu tad.
48Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
49¶ Pan orphenasant rannu y wlad yn etifeddiaethau yn ol ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynodd efe; sef Timnath-Serah, ym mynydd Ephraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Siloh, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorphenasant rannu y wlad.