Llyfr Josua 8
1yn datgan bendithion a melldithion. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac na arswyda: cymmer gyd â thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fynu i Ai: gwel, mi a roddais yn dy law di frenhin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad.
2A thi a wnei i Ai a’i brenhin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenhin: etto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
3¶ Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fynu i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos:
4Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ym mhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.
5Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyd â mi, a nesâwn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt,
6(Canys hwy a ddeuant allan ar ein hol ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt.
7Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi.
8A phan ennilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ol gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchymynais i chwi.
9¶ Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arhosasant rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i Ai: a Josua a lettŷodd y noson honno ym mysg y bobl.
10A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fynu, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tu ag at Ai.
11A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gyd âg ef, a aethant i fynu, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du y gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.
12Ac efe a gymmerth ynghylch pùm mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i’r ddinas.
13A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du y gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du y gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14¶ A phan welodd brenhin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.
15A Josua a holl Israel, fel pe tarawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoisant ar hyd yr anialwch.
16A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hol hwynt: a hwy a erlidiasant ar ol Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
17Ac ni adawyd gwr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ol Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ol Israel.
18A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tu ag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynodd y waywffon oedd yn ei law tu a’r ddinas.
19A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac ennillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
20A gwŷr Ai a droisant yn eu hol, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac accw: canys y bobl y rhai a ffoisent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.
21A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a darawsant wŷr Ai.
22A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt y’nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu accw: a tharawsant hwynt, fel na adawyd un y’ngweddill nac yn ddïangol o honynt.
23A brenhin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
24Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a tharawsant hi â min y cleddyf.
25A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.
26Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hol, yr hon a estynasai efe gyd â’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
27Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ol gair yr Arglwydd, yr hwn a orchymynasai efe i Josua.
28A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffaethwch hyd y dydd hwn.
29Ac efe a grogodd frenhin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchymynodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30¶ Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,
31Megis y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haiarn arnynt: a hwy a offrymmasant arni boeth-offrymmau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.
32Ac efe a ysgrifenodd yno ar y meini gopi o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe y’ngŵydd meibion Israel.
33A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll o ddeutu yr arch, ger bron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r prïodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garizim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel.
34Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felldith, yn ol y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35Nid oedd air o’r hyn oll a orchymynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua ger bron holl gynnulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.