Llyfr Josua 16
1Y Canaaneaid heb eu llwyr-oresgyn. A rhandir meibion Joseph oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fynu o Jericho i fynydd Bethel;
2Ac yn myned o Bethel i Luz, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
3Ac yn disgyn tu a’r gorllewin i ardal Japhleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Gezer: a’ i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.
4Felly meibion Joseph, Manasseh ac Ephraim, a gymmerasant eu hetifeddiaeth.
5¶ A therfyn meibion Ephraim oedd yn ol eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth-adar, hyd Beth-horon uchaf.
6A’r terfyn sydd yn myned tu a’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Siloh, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janohah:
7Ac yn myned i waered o Janohah, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.
8O Tappuah y mae y terfyn yn myned tu a’r gorllewin i afon Canah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim, yn ol eu teuluoedd.
9A dinasoedd neillduedig meibion Effraim oedd ym mysg etifeddiaeth meibion Manasseh; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd.
10Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.