The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 12

1Yr un brenhin ar ddeg ar hugain o’r tu arall i’r Iorddonen, y rhai a darawodd Josua. Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a darawodd meibion Israel, ac a feddiannasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tu a’r dwyrain:

2Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

3Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tu a Beth-jesimoth; ac o du y dehau, dan Asdoth-Pisgah:

4A goror Og brenhin Basan, yr hwn oedd o weddill y cawri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

5Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salchah, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenhin Hesbon.

6Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u tarawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.

7¶ Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a darawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, y’nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ol eu rhannau;

8Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y dehau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

9¶ Brenhin Jericho, yn un; brenhin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

10Brenhin Jerusalem, yn un; brenhin Hebron, yn un;

11Brenhin Jarmuth, yn un; brenhin Lachis, yn un;

12Brenhin Eglon, yn un; brenhin Gezer, yn un;

13Brenhin Debir, yn un; brenhin Geder, yn un;

14Brenhin Hormah, yn un; brenhin Arad, yn un;

15Brenhin Libnah, yn un; brenhin Adùlam, yn un;

16Brenhin Maceedah, yn un; brenhin Bethel, yn un;

17Brenhin Tappuah, yn un; brenhin Hepher, yn un;

18Brenhin Aphec, yn un; brenhin Lasaron, yn un;

19Brenhin Madon, yn un; brenhin Hasor, yn un;

20Brenhin Simron-Meron, yn un; brenhin Achsaph, yn un;

21Brenhin Taanach, yn un; brenhin Megido, yn un;

22Brenhin Cades, yn un; brenhin Jocneam o Carmel, yn un;

23Brenhin Dor yn ardal Dor, yn un; brenhin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;

24Brenhin Tirsah, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.

← Llyfr Josua 11Read In The App, Free →Llyfr Josua 13 →

Study Llyfr Josua 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324