Llyfr Josua 14
1Caleb trwy ragorfraint yn cael Hebron. Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.
2Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchymynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
3Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
4Canys meibion Joseph oedd ddau lwyth, Manasseh ac Ephraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meusydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.
5Fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a rannasant y wlad.
6¶ Yna meibion Judah a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jephunneh y Ceneziad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gwr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-Barnea.
7Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades-Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.
8Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fynu gyd â mi, a ddigalonnasant y bobl: etto myfi a gyflawnais fyned ar ol yr Arglwydd fy Nuw.
9A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Dïau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ol yr Arglwydd fy Nuw.
10Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pùm mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddyw yn fab pùm mlwydd a phedwar ugain.
11Yr ydwyf etto mor gryf heddyw a’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.
12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.
13A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jephunneh yn etifeddiaeth.
14Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jephunneh y Ceneziad hyd y dydd hwn: o herwydd iddo ef gwblhâu myned ar ol Arglwydd Dduw Israel.
15Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba: yr Arba hwnnw oedd wr mawr ym mysg yr Anaciaid. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.