Llyfr Josua 17
1Meibion Joseph yn cael rhandir arall. Ac yr oedd rhandir llwyth Manasseh, (canys efe oedd gyntaf-anedig Joseph,) i Machir, cyntaf-anedig Manasseh, tad Gilead: o herwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
2Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasseh, yn ol eu teuluoedd; sef i feibion Abïezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasseh mab Joseph, sef y gwrrywiaid, yn ol eu teuluoedd.
3¶ Ond Salphaad mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasseh, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Malah, a Noah, Hoglah, Milcah, a Thirsah:
4Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchymynodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ol gair yr Arglwydd, ym mysg brodyr eu tad.
5A deg rhandir a syrthiodd i Manasseh heb law gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen;
6Canys merched Manasseh a etifeddasant etifeddiaeth ym mysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasseh.
7¶ A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd ym myned ar y llaw ddehau, hyd breswylwyr En-tappuah.
8Gwlad Tappuah oedd eiddo Manasseh: ond Tappuah, yr hon oedd ar derfyn Manasseh, oedd eiddo meibion Ephraim.
9A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Canah, o du dehau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Ephraim, oedd ym mhlith dinasoedd Manasseh: a therfyn Manasseh sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.
10Y dehau oedd eiddo Ephraim, a’r gogledd eiddo Manasseh; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.
11Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasseh, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaeth.
12Ond ni allodd meibion Manasseh yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
13Etto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrrasant hwynt ymaith yn llwyr.
14¶ A meibion Joseph a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?
15A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fynu i’r coed, a thorr goed i ti yno y’ngwlad y Phereziaid, a’r cawri, od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
16A meibion Joseph a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heiyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd y’nglyn Jezreel.
17A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseph, wrth Ephraim ac wrth Manasseh, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:
18Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heiyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.