The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 1

1Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia y’nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.

2Ond sydd â’i ewyllys y’nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

3Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar làn afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda.

4Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.

5Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid y’nghynulleidfa y rhai cyfiawn.

6Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

← Llyfr Job 42Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 2 →

Study Llyfr y Salmau 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150