Llyfr Lefiticus 12
1Ei hoffrymmau am ei phuredigaeth. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wrryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei mis-glwyf y bydd hi aflan.
3A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddïenwaediad ef.
4A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys y’ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cyssegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.
5Ond os ar fenyw yr esgor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thri ugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.
6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colommen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:
7Ac offrymmed efe hynny ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod drosti: a hi a lanhêir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wrryw neu ar fenyw.
8Ac os ei llaw ni chyrhaedd werth oen, yna cymmered ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti; a glân fydd.