Llyfr Lefiticus 20
1Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig.
3A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhâu fy nghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.
4Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:
5Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ol Moloch, o fysg eu pobl.
6¶ A’r dyn a dro ar ol dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
7¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
8Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9¶ Os bydd neb a felldigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felldigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
10¶ A’r gwr a odinebo gyd â gwraig gwr arall, sef yr hwn a odinebo gyd â gwraig ei gymmydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig.
11A’r gwr a orweddo gyd â gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
12Am y gwr a orweddo ynghyd â’i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymmysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
13A’r gwr a orweddo gyd â gwr, fel gorwedd gyd â gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
14Y gwr a gymmero wraig a’i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.
15A lladder yn farw y gwr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.
16A’r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
17A’r gwr a gymmero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith y’ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.
18A’r gwr a orweddo gyd â gwraig glaf o’i mis-glwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.
19Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; o herwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.
20A’r gwr a orweddo gyd â gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddiblant.
21A’r gwr a gymmero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di-blant fyddant.
22¶ Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo y wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.
23Ac na rodiwch yn neddfau y genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi: o herwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.
24Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill.
25Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a’r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd o herwydd anifail, neu o herwydd aderyn, neu o herwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neillduais i chwi i’w gyfrif yn aflan.
26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: o herwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.
27¶ Gwr neu wraig a fo ganddynt yspryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.