Llyfr Lefiticus 14
1Y modd y glanhêir y tŷ hwnnw. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Dyma gyfraith y gwahan-glwyfus, y dydd y glanhêir ef. Dyger ef at y offeiriad:
3A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahan-glwyf a iachaodd ar y gwahan-glwyfus;
4Yna gorchymyned yr offeiriad i’r hwn a lanhêir, gymmeryd dau aderyn y tô, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
5A gorchymyned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi at ddwfr rhedegog.
6A chymmered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd y’ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.
7A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanhêir oddi wrth y gwahan-glwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.
8A golched yr hwn a lanhêir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod.
9A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ïe, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.
10A’r wythfed dydd cymmered ddau oen perffeith-gwbl, ac un hespin flwydd berffeith-gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, ac un log o blew.
11A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gwr a lanhêir, a hwynt hefyd, ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12A chymmered yr offeiriad un hespwrn, ac offrymmed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
13A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech-aberth, a’r poeth-offrwm; sef yn y lle sanctaidd: o herwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo yr offeiriad, yn gystal a’r pech-aberth: sancteiddiolaf yw.
14A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau ef.
15A chymmered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:
16A gwlyched yr offeiriad ei fys dehau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith ger bron yr Arglwydd.
17Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dŷd yr offeiriad ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.
18A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanhêir; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd.
19Ië, offrymmed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanhêir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hynny lladded y poeth-offrwm.
20Ac aberthed yr offeiriad y poeth-offrwm, a’r bwyd-offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto; a glân fydd.
21Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymmered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymmod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew yn fwyd-offrwm, a log o olew;
22A dwy durtur, neu ddau gyw colommen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm.
23A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhâu ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
24A chymmered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
25A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymmered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.
26A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun:
27Ac â’i fys dehau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith ger bron yr Arglwydd.
28A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanhêir, i wneuthur cymmod drosto ger bron yr Arglwydd.
30Yna offrymmed un o’r turturau, neu o’r cywion colommennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef;
31Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, ynghyd â’r bwyd-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod dros yr hwn a lanhêir ger bron yr Arglwydd.
32Dyma gyfraith yr un y byddo pla y gwahan-glwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhâd.
33¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
34Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahan-glwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;
35A dyfod o’r hwn bïau y tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:
36Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla, fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ,
37Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn îs na’r pared,
38Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaued y tŷ saith niwrnod.
39A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ,
40Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan.
41A phared grafu y tŷ o’i fewn o amgylch, a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan.
42A chymmerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymmered bridd arall, a phridded y tŷ.
43Ond os daw y pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu y cerrig, ac wedi crafu y tŷ, ac wedi priddo;
44Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahan-glwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.
45Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan.
46A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.
47A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwyttao yn y tŷ, golched ei ddillad.
48Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo y tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, o herwydd iachâu y pla.
49A chymmered i lanhâu y tŷ ddau aderyn y tô, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
50A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
51A chymmered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt y’ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.
52A glanhâed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad.
53A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymmod dros y tŷ; a glân fydd.
54Dyma gyfraith am bob pla y clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,
55Ac am wahan-glwyf gwisg, a thŷ,
56Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;
57I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahan-glwyf.