The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 25

1Adbrynu gweision. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorphwysed y tir Sabbath i’r Arglwydd.

3Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.

4Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Sabbath gorphwysdra i’r tir, sef Sabbath i’r Arglwydd: na haua dy faes, ac na thorr dy winllan.

5Na chynhauafa yr hyn a dyfo o hono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist; bydd yn flwyddyn orphwysdra i’r tir.

6Ond bydded ffrwyth Sabbath y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch; ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyd â thi.

7I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

8¶ Cyfrif hefyd i ti saith Sabbath o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Sabbath o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.

9Yna pâr ganu i ti udgorn y jubili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymmod cenwch yr udgorn trwy eich holl wlad.

10A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jubili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ïe, dychwelwch bob un at ei deulu.

11Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jubili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo o hono ei hun; ac na chynhullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.

12Am ei bod yn jubili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwyttêwch ei ffrwyth hi.

13O fewn y flwyddyn jubili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth.

14Pan werthech ddim i’th gymmydog, neu brynu ar law dy gymmydog, na orthrymmwch bawb eich gilydd.

15Pryn gan dy gymmydog yn ol rhifedi’r blynyddoedd ar ol y jubili; a gwerthed efe i tithau yn ol rhifedi blynyddoedd y cnydau.

16Yn ol amldra y blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ol anamldra y blynyddoedd y lleihêi di ei bris; o herwydd rhifedi y cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.

17Ac na orthrymmwch bob un ei gymmydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

18¶ Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddïogel.

19Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwytta digon, a thrigo ynddo yn ddïogel.

20Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwyttâwn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:

21Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.

22A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwyttêwch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, bwyttêwch o’r hen.

23¶ A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; o herwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyd â mi.

24Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir.

25¶ Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng, yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd.

26Ond os y gwr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng:

27Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gwr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth.

28Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jubili; ac yn y jubili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth.

29A phan wertho gwr dŷ annedd o fewn dinas gaerog, yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

30Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhâer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i’r neb a’i prynodd, ac i’w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jubili.

31Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meusydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jubili yr ânt yn rhydd.

32Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser.

33Ac os pryn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jubili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ym mysg meibion Israel.

34Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragywyddol yw efe iddynt.

35¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a llesgâu o’i law; cynnorthwya ef, fel y byddo byw gyd â thi; er ei fod yn ddïeithrddyn, neu yn alltud.

36Na chymmer ganddo occraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gâd i’th frawd fyw gyd â thi.

37Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.

38Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.

39¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.

40Bydded gyd â thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jubili y caiff wasanaethu gyd â thi.

41Yna aed oddi wrthyt ti, efe a’i blant gyd âg ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.

42Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aipht: na werther hwynt fel caethweision.

43Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.

44A chymmer dy wasanaethwr, a’th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch: o honynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.

45A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyd â chwi, prynwch o’r rhai hyn, ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyd â chwi, y rhai a genhedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.

46Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ol, i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.

47¶ A phan gyrhaeddo llaw dyn dïeithr neu ymdeithydd gyfoeth gyd â thi, ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a’i werthu ei hun i’r dïeithr yr hwn fydd yn trigo gyd â thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dïeithrddyn:

48Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;

49Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a’i gollwng ef yn rhydd; neu un o’i gyfnesaf ef, o’i dylwyth ei hun, a’i gollwng yn rhydd, neu, os ei law a gyrhaedd, gollynged efe ef ei hun.

50A chyfrifed â’i brynwr, o’r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jubili a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi y blynyddoedd, megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gyd âg ef.

51Os llawer fydd o flynyddoedd yn ol; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ol hynny.

52Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ol hyd flwyddyn y jubili, pan gyfrifo âg ef; taled ei ollyngdod yn ol ei flynyddoedd.

53Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gyd âg ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

54Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jubili, efe a’i blant gyd âg ef.

55Canys gweision i mi yw meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aipht: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

← Llyfr Lefiticus 24Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 26 →

Study Llyfr Lefiticus 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627