Llyfr Lefiticus 9
1Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor. YNA y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel;
2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg hwy ger bron yr Arglwydd.
3Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwyddiaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;
4Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr Arglwydd; a bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5¶ A dygasant yr hyn a orchymynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr Arglwydd.
6A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.
7Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchymynodd yr Arglwydd.
8¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
9A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
10Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
11A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll.
12Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch.
13A dygasant y poeth-offrwm atto, gyd â’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor.
14Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymmodd dros bechod, fel y cyntaf.
16Ac efe a ddug y poeth-offrwm, ac a’i hoffrymmodd yn ol y ddefod.
17Ac efe a ddug y bwyd-offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heb law poeth-offrwm y bore.
18Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch.
19Dygasant hefyd wer y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu.
20A gosodasant y gwer ar y parwydennau, ac efe a losgodd y gwer ar yr allor.
21Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddehau a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd; fel y gorchymynodd Moses.
22A chododd Aaron ei law tu ag at y bobl, ac a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poeth-offrwm, a’r ebyrth hedd.
23A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl.
24A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a ysodd y poeth-offrwm, a’r gwer, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.