The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 10

1YNA yr edrychais, ac wele yn y ffurf-afen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid amynt hwy.

2Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid a lliain, ac a ddywedodd, DOS i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.

3A'r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.

4Yna y cyfododd gogoniant yr ARGLWYDD oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y ty; a'r tf a lanwyd a'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddis-gleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.

5A swn adenydd y ceriwbiaid a gly-buwyd hyd y cyntedd nesaf all an, fel swn Dew Hollalluog pan lefarai.

6Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wisgasid S lliain, gan ddywedyd, Cymer dan oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion.

7Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i'r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid a lliain: yntau a'i cymerodd, ac a aeth allan.

8Sf A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd.

9Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.

10A'u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.

11Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.

12Eu holl gnawd hefyd, a'u cefnau, a'u dwylo, a'u hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.

13Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn. -

14A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb Hew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.

15A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.

16A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwytliau ni throent chwaith oddi wrthynt.

17Safent, pan safent hwythau, a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.

18Yna gogoniant yr ARGLWYDD a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.

19A'r ceriwbiaid a godasant eu had¬enydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyi, pan aethant allan: a safodd poh un wrth ddrws porth y dwy- rain i dŷ 'yt ARGLWYDD; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

20Dyma y peth byw a welais dan DDUW Israel, wrth afon Chebar: a gwybum mai y ceriwbiaid oeddynt.:

21Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd. '

22Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerdd-ent bob un yn union rhag ei wyneb.

← Llyfr Eseciel 9Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 11 →

Study Llyfr Eseciel 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748