The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 17

1AGAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dy Israel,

3A dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden.

4Torrodd frig ei blagur hi, ac a'i dug i dir marsiandiaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.

5A chymerth o had y tir, ac a'i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a'i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a'i plannodd fel helygen.

6Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydd-en wasgarog, isel o dwf, a'i changau yn troi ato ef; a'i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.

7Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac a llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i'w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad.

8Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd-deg.

9Dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW: A Iwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i'w thynnu hi o'i gwraidd.

10Ie, wele, wedi ei phlannu, a Iwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain a hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.

11y Daeth hefyd air yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

12Dywed yr awr hon wrth y ty gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'u dug hwynt gydag ef i Babilon:

13Ac a gymerodd o'r had brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfamod, ac a'i dug ef dan Iw; cymerodd hefyd gedyrn y wlad:

14Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.

15Ond gwrthryfelodd i'w erbyn, gan anfon ei genhadau i'r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A Iwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddii-ddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?

16Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, yng nghartref y brenin yr hwn a'i gwnaeth efyn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei Iw, a'r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.

17Ac ni wna Pharo a'i lu mawr, ac a'i fintai luosog, ddim gydag efmewn rhyfet, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes.

18Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oil, ni ddianc.

19Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.

20Canys taenaf fy rhwyd amo, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf efi Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i'm herbyn..

21A'i holl ffoaduriaid ynghyd a'i holl fyddinoedd a syrthiant gan y eleddyf, a'r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.

22Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a'i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a'i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig.

23Ar fyaydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd-deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant.

24A holl brennau y maes a gfint wybod mai myfi yr ARGLWYDD a ostyngais y -pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren orin: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwneuthum.

← Llyfr Eseciel 16Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 18 →

Study Llyfr Eseciel 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748