The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 29

1Yn y degfed mis o'r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD atai, gan ddywedyd,

2Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oil.

3Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Pharo brenin yr Ain't, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a'i gwneuthum hi i mi fy hun.

4Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.

5A mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd; syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesglir, ac ni'th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y'th roddais yn ymborth.

6A holl drigolion yr Aifft a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, atrt.iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel.

7Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i'w holl arennau sefyll.

8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail.

9A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a'i gwneuthum.

10Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dwr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia.

11Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd.

12A mi a wnafwiad yr Aifft yn anghyf¬annedd yng nghanol gwledydd anghyf-anheddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhed¬loedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt.

14A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel.

15Isaf fydd o'r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.

16Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hoi hwythau: eithr cant wybod mat myfi yw yr Ar¬glwydd DDUW.

17Ac yn y mis cyntaf o'r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddi-noethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:

19Am hynny fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i'w luef.

20Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd DDUW.

21Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn ty Israel flaguro, a rhoddafi tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

← Llyfr Eseciel 28Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 30 →

Study Llyfr Eseciel 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748