The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 41

1A efe a'm dug i i'r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o'r naill du, ac yn chwc chufydd o led o'r tu arall, fel yr oedd lled y babell.

2Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.

3Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.

4Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf.

5Ac efe a fesurodd bared y ty yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r ty.

6A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y ty yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglyn; ac nid oeddynt ynglyn o fewn pared y ty.

7Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y ty oedd yn myned i fyny o amgylch y ty: am hynny y ty oedd ehangach oddi amodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.

8Gwelais hefyd uchder y ty o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.

9A thcwder y mur yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd; a'r gweddill oedd Ie i'r celloedd y rhai oedd o fewn.

10A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y ty o amgylch ogylch.

11A drysau yr ystlysgell oedd tua'r llannerch weddill; un drws tua'r gogledd, ac un drws tua'r deau: a lled y fan -a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.

12A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorilewin, oedd ddeg cufydd a thri-gain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.

13Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiiadaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.

14A lled wyneb y tŷ, a'r llannerch neilltuol tua'r dwyrain, oedd gan cufydd.

15Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'i ystafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyda'r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.

16Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'i ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder» ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid a choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllen¬asid,

17Hyd uwchben y drws, a hyd y ty o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.

18A cheriwbiaid hefyd ac a phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.

19Canys wyneb dyn oedd tua'r balm-wydden o'r naill du, ac wyneb Hew tua'r balmwydden o'r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y ty o amgylch ogylch.

20Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o'r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml.

21Pedwar ochrog oedd pyst y derol, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.

22Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchdcr, a'i hyd yn ddau gufydd: a'i chonglau, a'i huchdei, a'i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr ARGLWYDD.

23Ac yr ydoedd daa ddrws i'r deml ac i'r cysegr:

24A dwy ddor i'r drysau, sef dwy ddor blygedig; dwy ddor i'r naill ddrws, a dwy ddor i'r llall.

25A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaetbid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o's tu allan.

26Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y portb, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.

← Llyfr Eseciel 40Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 42 →

Study Llyfr Eseciel 41

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748