The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 46

1FEL hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Forth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.

2A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a a allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.

3Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr ARGLWYDD.

4A'r offrwm poeth a offrymo y tywysog i'r ARGLWYDD ar y dydd Saboth, fydd ehwech o wyn perffaithgwbl, a bwrdd perffaitn-gwbl:

5A bwyd-offrwm o effa gyda'r hwrdd< a rhodd ei law o fwyd-offrwm gyda'r wyil, a hin o olew gyda'r effa.

6Ac ar ddydd y newyddloer, bustach. ieuanc perffaithgwbl, a chwech o wyn a hwrdd; perffaithgwbl fyddant.

7Ac efe a ddarpara effa gyda'r bustach, ac effa gyda'r hwrdd, yn fwyd-offrwm; a chyda'r wyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa.

8A phan ddelo y tywysog i mewn, at hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr a allan.

9A phan ddelo pobl y tir o flaen yt ARGLWYDD ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a a allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a a allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr a yntau allan.

11Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd-offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r wyn, a hin o olew gyda'r effa.

12A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r ARGLWYDD, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwy¬rain, ac efe a ddarpara ei bocthoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a a allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.

13Oen biwydd perffaithgwbl hefyd a ddarpen yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD beunydd: o fore i fore y darperi ef.

14Darperi hefyd yn fwyd-offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd-offrwm i'r AR¬GLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol byth.

15Fel hyn y darparant yr oen, a'r twyd-offrwm, a'r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.

16Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.

17Ond pan roddo efe rodd o'i etifedd¬iaeth i un o'i weision, bydded befyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i'r tywysog: eto ei etifedd¬iaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy.

18Ac na chymered y tywysog o etifedd¬iaeth y bobl, i'w gorthrymu hwynt allan o'u perchenogaeth; eithr rhodded etifedd¬iaeth i'w feibion o'i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o'i berchenogaeth.

19y Ac efe a'm dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua'r gogledd: ac wele yno Ie ar y ddau ystlys tua'r gorilewin.

20Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a'r pech-aberth, a lle y pobant y bwyd-offrwrn; fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl.

21Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac a'm tywysodd heibio i bedair congi y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congi i'r cyntedd.

22Ym mhedair congi y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeu-gain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair.

23Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch.

24Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dy y cogau, lle y beirw gweinidogion y ty aberth y bobl.

← Llyfr Eseciel 45Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 47 →

Study Llyfr Eseciel 46

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748