The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 42

1A efe a'ai dug i'r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua'r gogledd; ac a'm dug i'r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua'r gogledd.

2Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain,

3Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i'r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i'r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafeU yn dri uchder.

4Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a'u drysau tua'r gogledd.

5A'r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwca na'r rhai hyn, na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r adeiladaeth.

6Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.

7A'r mur yr hwn oedd o'r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua'r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugam ei hyd.

8Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugam: ac wele,-o fiaen y deml yr oedd can cufydd.

9Ac oddi tan yr ystafeHoedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwy¬rain, ffordd yr elid iddynt hwy o'r cyn¬tedd nesaf allan.

10O fewn tewder mur y cyntedd tua'r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yt oedd yr ystafelloedd.

11A'r ffordd o'u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r gogledd; un hyd a hwynt oeddynt, ac un lled a hwynt: a'u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt.

12Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua'r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13H Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesant at yr ARGLWYDD, y pethau sanct¬aidd cysegredig: yno y gosodant y sanct¬aidd bethau cysegredig, a'r bwyd-of&wifl, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd.

14A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o'r cysegr i'r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt, am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgarit wisgoedd eraill, ac a nesant at yr hyn a berthyn i'r bobl.

15Pan orffenasai efe fesuro y ty oddi fewn, efe a'm dug i tua'r porth sydd a'i wyneb tua'r dwyrain, ac a'i mesurodd efp amgylch ogylch.

16Efe a fesurodd du y dwyrain SL chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

17Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

18Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y goisen fesur.

20Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.

← Llyfr Eseciel 41Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 43 →

Study Llyfr Eseciel 42

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748